24 Hydref 2016

Text Box: Mike Hedges AC
 Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau
 Cynulliad Cenedlaethol Cymru
 Tŷ Hywel
 Caerdydd
 CF99 1NA

Annwyl Mike

Deiseb P-04-688 Gorsaf Bŵer Tata Steel ym Mhort Talbot

Diolch am eich llythyr dyddiedig 3 Hydref ynghylch y ddeiseb am orsaf bŵer yn Tata Steel Port Talbot.

Nododd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y ddeiseb yn ein cyfarfod a oedd yn edrych ar ddyfodol y diwydiant dur yng Nghymru ar 19 Hydref 2016.

Yn yr un sesiwn, trafodais y ddeiseb â'r Prif Weinidog, a dywedodd ei fod yn ymwybodol o'r mater sylfaenol. Pan ofynnwyd iddo roi sylwadau pellach, ymgynghorodd ag uwch swyddog cyn dweud:

“I was just checking what I can say given the commercial situation.

“It’s part of the £60m package that we can help with the power plant. And good progress is being made on that.

“What we have offered Tata we believe is a good deal. Tata have said the same thing. But of course we still have these outstanding issues of energy prices and pensions that will need to be addressed for the full package to be made available for Tata.

“There’s no difficulty in terms of going forward with the support we’ve put in place.”

Rwy'n siŵr y bydd y deisebwyr yn awyddus i wybod y bu trafodaethau pellach ynghylch prisiau ynni ac arbed ynni drwy gydol ein sesiwn ar 19 Hydref – gyda'r cynhyrchwyr dur a'r undebau yn cynrychioli'r gweithwyr dur. Gellir gweld fideo o'r sesiwn ar Senedd TV.

Yn dilyn y sesiwn, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Weinidog, Theresa May AS. Bydd copi o'r llythyr hwnnw ar gael yn fuan ar wefan y Pwyllgor.

Russell George AC

Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau